Lleoliad:
Theatr Hafren, y Drenewydd
Dyddiad: Dydd Gwener, 16 Chwefror 2018
Amser:
11.35 -
13.10
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/4925
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Ann Jones AC (Cadeirydd) Mick Antoniw AC Jayne Bryant AC Russell George AC John Griffiths AC Mike Hedges AC Dai Lloyd AC David J Rowlands AC Simon Thomas AC |
Tystion: |
Carwyn Jones AC, Prif Weinidog Cymru Tim Render, Llywodraeth Cymru David Morris, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Graeme Francis (Clerc) Kath Thomas (Ail Glerc) Katy Orford |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Bethan Jenkins, Lynne Neagle, Nick Ramsay a David Rees.
1.3 Croesawodd y Cadeirydd Mick Antoniw i'r Pwyllgor, a diolchodd i Huw Irranca-Davies am ei gyfraniad at waith y Pwyllgor yn ystod ei amser fel aelod ohono.
2.1 Bu'r Pwyllgor yn craffu ar waith y Prif Weinidog mewn perthynas â'r diwydiant bwyd a diod yng Nghymru, yn enwedig o ran effaith Brexit ac effaith trefniadau masnachu posibl yn y dyfodol.
2.2 Cytunodd y Prif Weinidog i ddarparu rhagor o wybodaeth i'r Pwyllgor ynghylch y materion a ganlyn:
· pa un a fyddai'n bosibl i Lywodraeth Cymru ddarparu cymorth pellach i gwmnïau sydd am fod yn rhan o deithiau masnach tramor sy'n cael eu harwain gan Lywodraeth Cymru, gan gynnwys pa un a fyddai'n bosibl trefnu bod y daith gyntaf yn rhad ac am ddim; a
· sut y gellid cefnogi'r broses o gyflenwi cynhyrchion Cymreig i fanwerthwyr mawr.
2.3 Cytunodd y Prif Weinidog y byddai'n rhoi ystyriaeth bellach i'r syniad o ddynodi bwyd a diod fel thema dwristiaeth am flwyddyn yn y dyfodol.
Gofynnodd yr Aelodau gwestiynau i'r Prif Weinidog ar faterion amserol.
Nodwyd y papur.
Derbyniwyd y cynnig.
Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd yn y sesiwn flaenorol a chytunodd i ysgrifennu at y Prif Weinidog i ofyn am ragor o wybodaeth am nifer o faterion.